current location : Lyricf.com
/
/
Ahès [Welsh translation]
Ahès [Welsh translation]
turnover time:2024-06-02 18:23:05
Ahès [Welsh translation]

Ym mhlyg ei wisg

Yw fy nghysgod lliw’r nos.

Gan foddi fy nghalon

Amdanat ti yr wylaf.

Ar gopa’r rhos,

Yng nghyfrinach y nos,

Yn esmwytho fy mhechod.

Ai fy nghlywed a wnei di?

O Lydaw Isel i Fôr Iwerddon

Ahès a elwir fi

Ac yr wyf yn dy ddisgwyl …

Wylaf gyda’r dydd, canaf gyda’r nos

A dy ddisgwyl, dy ddisgwyl…

Orlif oer

Etifeddiaeth yr hanner colledigaeth

Yw fy mywyd direol.

Nesáu a wnaf.

Y mae edifar gennyf

Am farwnad fy nghymrodorion

Yn ddamnedig yng Nghaer-Ys

Mor agos wyf i ti

Esgyll gwynion

Suo-gân glan y môr

Enaid digadwyn

Yn mynd tuag atat…

Ar y trothwy

A’r breichiau’n oer a gwlyb

Yng ngwres yr aelwyd

A’r galon yn wag.

Comments
Welcome to Lyricf comments! Please keep conversations courteous and on-topic. To fosterproductive and respectful conversations, you may see comments from our Community Managers.
Sign up to post
Sort by
Show More Comments
Nolwenn Leroy
  • country:France
  • Languages:French, English, Breton, Gaelic (Irish Gaelic)
  • Genre:Folk, Pop, Singer-songwriter
  • Official site:https://nolwennleroy.com/
  • Wiki:https://en.wikipedia.org/wiki/Nolwenn_Leroy
Nolwenn Leroy
Copyright 2023-2024 - www.lyricf.com All Rights Reserved